Jamie Bevan
Mae ymgyrchydd iaith sy’n cael ei ryddhau o’r carchar heddiw wedi cwyno am “regfeydd a bygythiadau agored” a gafodd gan swyddogion carchar.

Mewn llythyr at Gomisiynydd y Gymraeg, dywedodd Jamie Bevan ei fod yn ddiolchgar i Meri Huws am ymyrryd ar ei ran er mwyn sicrhau ei fod yn cael defnyddio’r Gymraeg, ond na fydd ei hymyrraeth yn cael effaith tymor hir ar y Gymraeg yn y carchar.

Dywedodd hefyd ei fod wedi cael ei drin yn “sarhaus” am iddo fynnu gwasanaethau Cymraeg.

“Mae yna ryw deimlad fod swyddogion y carchar mewn ‘crisis management’ wrth ddelio gyda’r cwsmer lletchwith,” meddai Jamie Bevan mewn llythyr o garchar Caerdydd.

Dywed Jamie Bevan fod hyn yn enghraifft o “sut mae pethau wedi gweithio ers Deddf Iaith ’93 a chynt.”

“Sefydliad yn derbyn cwyn am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg. Sefydliad yn ymddiheuro a chywiro’r sefyllfa gyda rhyw gyfieithiad brys. Mae’r cwsmer yn derbyn yr ymddiheuriad a phethau o fewn y sefydliad yn dychwelyd i’r norm … tan y gŵyn nesaf.

“Does dim dilyniant i sicrhau bod newid cadarnhaol yn yr hirdymor, ond yn hytrach delio gydag achosion unigol ar hap a damwain.”

Ymateb y Comisiynydd

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau eu bod nhw wedi “derbyn cŵyn ynghylch diffyg argaeledd ffurflenni dwyieithog yng Ngharchar Caerdydd, ac mae’r broses o ddelio â’r gŵyn wedi dechrau.”

“Y Gwasanaethau Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS), yw’r corff sy’n gyfrifol am reoli carchardai Cymru a Lloegr. Mae’r corff hwnnw wedi paratoi cynllun iaith drafft ac yn cychwyn ar gyfnod o ymgynghori.

“Mae’r Comisiynydd yn ystyried yr holl bwyntiau a godwyd yn y llythyr a dderbyniodd gan Mr Bevan.”

Cafodd Jamie Bevan ei garcharu am 35 diwrnod gan Lys Ynadon Merthyr ar 13 Awst  am wrthod talu dirwy wedi iddo fod yn derbyn gohebiaeth uniaith Saesneg. Treuliodd ddeng niwrnod yng ngharchar Caerdydd cyn treulio saith niwrnod yng ngharchar agored Prescoed ger Pontypŵl.

Mae disgwyl iddo gael ei ryddhau heddiw ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu rali i’w groesawu nôl i Ferthyr Tudful.

Mae disgwyl i Jamie Bevan annerch y gynulleidfa yng nghanolfan Gymraeg Soar ym Merthyr.