Tren yn Ystrad Mynach
Fe fydd cwmni Trenau Arriva Cymru’n cyfarfod gydag aelodau o undeb ASLEF ddydd Mawrth nesa’ mewn ymdrech arall i atal streic gan yrwyr.

Fe ddywedodd y cwmni wrth Golwg360 eu bod nhw’n “hynod siomedig” ar ôl i ASLEF gyhoeddi’r streic ddeuddydd ddiwedd y mis.

Maen nhw hefyd wedi rhybuddio na fydd yna ddim symud pellach ar y cynnig cyflog sydd wedi ei wneud i’r gyrwyr.

‘Cynnig sylweddol’

“Mae trenau Arriva Cymru wedi gwneud cynnig sylweddol sydd wedi’i wella sawl gwaith,” meddai llefarydd ar ran y cwmni wrth Golwg360.

“Mae’r cynnig cyflog terfynol sydd yn fwy na 12% dros 2 flynedd yn dod â  chyflog gyrwyr  i £39,117 am wythnos 35 awr a 4 dydd – ar gyfartaledd.

“Mae’r sianelau cyfathrebu yn parhau ar agor ar hyn o bryd ac rydym yn parhau i wneud popeth allwn ni i ddatrys y sefyllfa,” meddai Peter Leppard, Cyfarwyddwr Diogelwch Trenau Arriva Cymru.

“Rydym yn annog ASLEF i atal eu gweithredu ac i dderbyn y cynnig cyflog hael..” meddai.

Barn yr undeb

Mae llefarydd ar ran ASLEF wedi dweud eu bod yn “gweithredu ar ôl misoedd o drafod sydd heb sicrhau codiad cyflog derbyniol”.

Roedd mwyafrif sylweddol o’r bron 500 o aelodau sydd gan ASLEF yn y cwmni wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol ac mae undeb arall y gweithwyr rheilffordd, yr RMT, hefyd wedi bygwth streicio.

Maen nhw’n dadlau bod gyrwyr Trenau Arriva Cymru’n cael cyflogau is na gyrwyr mewn rhannau eraill o wledydd Prydain a’u bod wedi ymgyrchu ers tro i geisio newid pethau.