Nerys Evans - croesawu
Mae dwy blaid Llywodraeth Cymru’n anghytuno tros newid dyddiad etholiadau’r Cynulliad.

O fewn llai na dwyawr i ddatganiad gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwrthod symud y dyddiad, roedd Plaid Cymru’n cyhoeddi datganiad yn croesawu’r syniad.

Bellach, mae swyddfa Llywydd y Cynulliad wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn llythyr gan Ddirprwy Brif Weinidog Prydain, Nick Clegg, yn awgrymu bod etholiadau’r Cynulliad yn 2015 yn cael eu cynnal flwyddyn ynghynt neu’n cael eu gohirio am 12 mis.

Y nod yw osgoi gwrthdaro rhwng Etholiad Cyffredinol Prydeinig a’r bleidlais Gymreig – oherwydd bod y ddwy senedd yn parhau am gyfnod set o bump a phedair blynedd, fe fydd yr etholiadau’n dod yn yr un flwyddyn.

Anghytuno

Ar y radio y bore yma, roedd Carwyn Jones o’r Blaid Lafur yn gwrthod symud gan ddweud mai lle San Steffan oedd newid eu trefniadau.

Ond o fewn dim, roedd dau o arweinwyr Plaid Cymru’n cyhoeddi datganiad yn croesawu neges Nick Clegg gan ddweud bod Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi bod yn pwyso am hynny.

Medden nhw

“Mae angen croesawu’r ffaith y bydd modd symud etholiadau’r Cynulliad i osgoi gwrthdaro gyda’r bleidlais Brydeinig,” meddai Pennaeth Polisi Plaid Cymru, Nerys Evans.

Roedd hi’n dda bod llywodraeth Prydain “wedi gweld y golau”, meddai Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Yn ôl llefarydd yn swyddfa’r Llywydd, Dafydd Elis-Thomas, fe fydd Pwyllgor Busnes y Cynulliad yn trafod yr awgrym yn eu cyfarfod nesa’ Ddydd Gŵyl Dewi.