Cyw
Fe lwyddodd un o raglenni plant bach S4C i gipio gwobr mewn gŵyl deledu ryngwladol, ochr yn ochr ag enwau mawr fel MGM a Disney.

Y ffilm Ble Mae Cyw? am rai o hoff gymeriadau slot meithrin y sianel a aeth â gwobr KidScreen yng nghategori’r ffilm, y rhaglen arbennig neu’r rhaglen un-tro orau i blant bach.

Roedd hi wedi ei chynhyrchu gan Boomerang+ ac fe gafodd y wobr ei chyflwyno mewn seremoni yn Efrog Newydd neithiwr.

“Mae’r wobr KidScreen yn gydnabyddiaeth ryngwladol o’r hyn y mae S4C a’r cynhyrchwyr yng Nghymru yn ei gyflawni,” meddai Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, Siân Eirian.

Fe lwyddodd y ffilm o Gymru i guro ffilm o Awstralia o’r enw The Adventures of Charlotte and Henry.

Roedd Sesam Street a’r Pink Panther ymhlith yr enillwyr eraill yn y categori meithrin.