Justine Greening
Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn San Steffan yn ceisio am gyngor cyfreithiol cyn arwyddo cytundeb ar gyfer rhedeg trenau o Lundain i ogledd Cymru a Manceinion.

Mae pennaeth Virgin, Richard Branson, wedi cyflwyno her gyfreithiol munud-olaf er mwyn cael ymchwiliad barnwrol i benderfyniad y Llywodraeth i roi cytundeb trenau i gwmni First Group yn hytrach na Virgin Trains, sydd wedi bod yn cynnal y gwasanaeth ar linell y gorllewin ers 1997.

Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Justine Greening wedi dweud ei bod hi wedi bod yn ymgynghori gyda chyfreithwyr ac y bydd hi’n rhoi gwybod beth fydd ei chamau nesaf yn dilyn yr her gan Virgin.

Roedd disgwyl i Justine Greening arwyddo’r cytundeb 13-mlynedd gyda First heddiw, a ddoe dywedodd na fydd oedi cyn arwyddo.

Mae cais  Virgin i’r Uchel Lys yn dadlau bod y penderfyniad i roi’r cytundeb i First yn “anwybyddu’r risg sylweddol i drethdalwyr a chwsmeriaid”, ond mae FirstGroup wedi dweud fod ganddyn nhw “bob ffydd” ym mhrosesau’r Adran Drafnidiaeth.

“Ni fu unrhyw gŵyn am y broses, a gafodd ei ddisgrifio’n fanwl o flaen llaw, tan i Virgin golli’r cynnig,” meddai FirstGroup.

Cynigiodd FirstGroup £5.5 biliwn am y cytundeb, tra bod Virgin wedi cynnig £4.8 biliwn.

Roedd nifer y teithwyr ar linell y gorllewin wedi dyblu yn ystod cyfnod Virgin wrth y llyw, ac mae’r Blaid Lafur wedi galw am ohirio arwyddo’r cytundeb.