Catherine Zeta Jones yn derbyn ei CBE
Mae gormod o anrhydeddau yn cael eu rhoi i wleidyddion, selebs a gweision sifil yn hytrach na phobl sy’n rhoi eu hamser a’u hymdrech i weithio yn eu cymunedau lleol, meddai Aelodau Seneddol heddiw.

Mae’r Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus wedi condemnio’r arfer o roi teitlau marchogion i ddynion busnes a swyddogion blaenllaw “am wneud eu swyddi beunyddiol.”

Mae’r pwyllgor wedi galw am ddiwygio’r system yn gyfan gwbl gan greu comisiwn anrhydeddau annibynnol er mwyn  adfer hygrededd yng ngolwg y cyhoedd.

Mae Cymru hefyd yn cael mwy na’i siâr o anrhydeddau, medd yr Aelodau Seneddol.

Dywed y Pwyllgor bod na dystiolaeth nad yw’r anrhydeddau’n cael eu rhoi yn gyfartal ar draw u DU, gyda Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal a rhai ardaloedd yn Lloegr, yn cael “mwy na sy’n gymesur â maint y boblogaeth.”

Mae’r Fonesig Shirley Bassey, Syr Tom Jones a Catherine Zeta Jones ymhlith rhai o’r ser amlycaf yng Nghymru sydd wedi derbyn anrhydedd.

‘Sefydliad o snobyddiaeth’

Mae Paul Flynn, AS Gorllewin Casnewydd hefyd wedi condemnio’r drefn o roi anrhydeddau fel teitlau marchogion, OBE ac yn y blaen.

“Mae’r system yn gwneud sefydliad o snobyddiaeth a braint ac yn cryfhau rhaniadau dosbarth,” meddai mewn blog am y pwnc.

“Mae’r bobol sydd eisoes yn rhy freintiedig oherwydd cyfoeth, llinach, enwogrwydd neu lwc yn cael gwobrau ymhellach trwy deitlau a medalau.”

Condemnio anrhydeddau gwleidyddol

Mae hefyd wedi condemnio’r bwriad i adfer anrhydeddau gwleidyddol – pan fydd ASau ac eraill yn derbyn gwobrau am eu gwasanaeth.

Yn ôl Paul Flynn, mae yna gysylltiad hefyd rhwng rhoi arian at bleidiau gwleidyddol a derbyn teitl marchog.