Syr Wynff a Plwmsan
Mae un o ddeuawdau comedi mwyaf eiconig Cymru yn aduno mis nesaf.

Bydd Syr Wynff ap Concord y Bos a Plwmsan y Twmffat Twp yn ymddangos ar lwyfan fel rhan o noson ‘Slepjan!’ sy’n nodi pen-blwydd cyntaf Stafell Fyw Caerdydd.

Yn ymuno â Syr Wynff a Plwmsan ar 8 Medi yn Theatr Reardon Smith yn y brifddinas bydd rhai o dalentau cerddorol amlycaf Cymru – Bryn Fôn, Elin Fflur, Brigyn a Delwyn Siôn.

Bydd holl elw’r cyngerdd yn mynd tuag at gynnal y Stafell Fyw Caerdydd sy’n ganolfan adfer yn y gymuned i Gaerdydd a De Cymru

Bydd y cyngerdd hefyd yn llwyfan i lansio Apêl Eciwmenaidd Stafell Fyw Caerdydd i holl eglwysi Cymru gan Archesgob Cymru’r Dr Barry Morgan ac arweinwyr enwadau eraill.

‘Anrhydedd’

Fe ddychwelodd Syr Wynff a Plwmsan i’r sgrin am gyfnod byr y llynedd fel rhan o’r gyfres deledu ar S4C, Ddoe am Ddeg.

Roedd y gyfres deledu wreiddiol, Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan, yn rhedeg am tua wyth mlynedd yn yr 80au a dechrau’r 90au.

Dywedodd Wynford Ellis Owen (Syr Wynff ap Concord y Bos), Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd wrth Eglwys Bresbyteraidd Cymru: “Bydd y cyngerdd yn dipyn o noson! Y tro diwethaf i’m ‘alter ego’ a Plwmsan (Mici Plwm) fod gyda’i gilydd ar y llwyfan oedd yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl ym 1985. Yr unig beth rydw i’n ei gofio am y noson honno oedd sŵn hapus wrth i ni chwerthin ein hunain yn sâl am ddim rheswm o gwbl ac yna’r Pafiliwn i gyd yn gwneud yr un peth – a dyna ddiwedd y noson!

“Mae’n anrhydedd i’r ddau ohonom allu rhannu’r llwyfan gyda cherddorion mor ardderchog ac mae’n addo bod yn noson arbennig iawn.

“Mae’n anhygoel meddwl bod blwyddyn wedi mynd ers i Stafell Fyw Caerdydd agor ei drysau am y tro cyntaf. Bydd Slepjan! nid yn unig yn ddathliad o’r hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn ond hefyd, gobeithio, yn codi’r arian angenrheidiol i sicrhau y gall Stafell Fyw Caerdydd barhau i ddatblygu o nerth i nerth.”