Ghil’ad Zuckermann
Mae arbenigwr ar adfywio ieithoedd yn dweud fod colli iaith yn fwy niweidiol i ddiwylliannau brodorol na cholli tir.

Yn ôl yr Athro Ghil’ad Zuckermann o Brifysgol Adelaide mae angen rhoi mwy o bwyslais ar adfer iaith i gymuned o bobol a gollodd yr iaith trwy ormes neu drwy bolisi.

Mae Ghil’ad Zuckermann wedi bod yn gweithio gyda chymunedau brodorol yn Awstralia sydd wedi profi dirywiad yn eu hiaith o achos bod eu plant wedi cael eu symud ymaith, ac o achos polisi bwriadol.

“Iaith yw ceg y tir yn niwylliant brodorion Awstralia, felly mae’n gymwys i roi hawliau iddi hefyd, “ meddai Ghil’ad Zuckermann.

“Mae’n syniad Gorllewinol i dalu iawndal am golli tir, ond nid am golli iaith. Dwi’n rhagweld bydd iawndal yn cael ei dalu yn y dyfodol am golli iaith, sy’n eiddo deallusol,” meddai.

Mae Ghil’ad Zuckermann  yn frodor o Israel ac wedi cyhoeddi astudiaethau ar yr Hebraeg, sy’n iaith a gafodd ei hadfywio yn y cyfnod modern. Mae’n dweud ei bod hi’n hawdd gweld p’un a yw iaith mewn cyflwr diogel ai peidio – “Jyst edrychwch ar ganran y plant sy’n ei siarad hi fel iaith gyntaf,” meddai.