Mae cwmni Virgin Trains yn bwriadu cyflwyno her gyfreithiol mewn ymdrech funud olaf i ddal ei afael ar gytundeb ar gyfer y gwasanaeth trenau o Lundain i ogledd Cymru a Manceinion.
Yn gynharach yn y mis fe gyhoeddodd y Llywodraeth bod y cytundeb yn cael ei roi i First Group yn hytrach na Virgin Trains sydd wedi bod yn cynnal y gwasanaeth ers 1997.
Fe fydd y cytundeb newydd yn para am 13 mlynedd ac yn dechrau ym mis Rhagfyr.
Roedd perchennog Virgin, Richard Branson, wedi bod yn feirniadol iawn o’r broses o wneud cais am y cytundeb.
Heddiw, fe gyhoeddodd Virgin ei fod yn “cymryd camau cyfreithiol” ynglŷn â phenderfyniad y Llywodraeth yn y gobaith y bydd llofnodi’r cytundeb yn cael ei ohirio.
‘Dim oedi’
Ond mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Justine Greening wedi dweud heddiw na fydd na oedi cyn arwyddo’r cytundeb.
Roedd y Blaid Lafur wedi galw ar y Llywodraeth i ohirio arwyddo’r cytundeb newydd nes bod y mater yn cael ei drafod yn y Senedd.
“Byddwn ni’n gwthio mlaen gyda llofnodi’r cytundeb gyda FirstGroup, ac er bod gen i barch mawr at Virgin, dwi’n tybio y basen nhw’n berffaith hapus gyda’r broses petasen nhw wedi ennill,” meddai Justine Greening.
Roedd First wedi cynnig £5.5 biliwn am gytundeb llinell y gorllewin tra bod Virgin wedi cynnig £4.8 biliwn, ond mae Richard Branson wedi bwrw amheuaeth ar allu First Group i fforddio’r cytundeb.
Mae dros 100,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn erbyn rhoi’r cytundeb i gwmni FirstGroup yn hytrach nag i Virgin Trains.
Mae disgwyl i’r cytundeb gael ei arwyddo yfory.