Alun Ffred Jones
Mae Plaid Cymru yn dweud nad yw hi’n bosib gweld sut mae economi Cymru yn perfformio am nad oes ffigurau sy’n benodol ar gyfer Cymru.

Mae’r cynnyrch mewnwladol crynswth, neu’r GDP, yn cael ei ddefnyddio i fesur perfformiad yr economi, a dywed Plaid Cymru ei bod hi’n amhosib i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r economi yng Nghymru heb ystadegau manwl.

“Y gwir yw nad yw’r llywodraeth eisiau gwybod am fod y newyddion yn debyg o fod yn ddrwg iawn, ac mae’n well ganddyn nhw gladdu eu pennau yn y tywod yn hytrach na wynebu ffeithiau,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones.

“Rydym eisiau gweld ffigurau GDP Cymru yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd â ffigurau’r Deyrnas Gyfunol fel rhan o becyn o ddangosyddion economaidd, gan gynnwys ffigurau yn ôl sector, ac rydym eisiau gweld Llywodraeth Cymru wedyn  yn gweithredu i ymateb i’r ffigyrau hyn.

“Y gwir yw nad oes neb ar hyn o bryd yn gwybod pa mor ddrwg yw’r sefyllfa, a does gan Lywodraeth Cymru ddim awydd canfod beth yw’r sefyllfa.”

‘Ffigurau’r farchnad swyddi yn fwy perthnasol’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod ystadegau’r farchnad swyddi yn “fwy perthnasol na GDP.”

“Mae polisi Llywodraeth Cymru yn gweithredu dros y tymor hir. Mae’n gymwys i ymateb i newidiadau tymor byr i’r economi, ond mae gwybodaeth am y farchnad swyddi yn fwy perthnasol na GDP (neu’r GVA), ac mae gennym ni ddata cyson yn y maes.

“Gall GDP y pen fod yn gamarweiniol, ac mae angen ei osod yng nghyd-destun dangosyddion eraill megis cyflogaeth, diweithdra, gweithgarwch economaidd, cyflogau cyfartaledd, ac incwm fesul cartref.”