Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth yng nghabinet San Steffan wedi dweud na fydd hi’n oedi cyn arwyddo’r cytundeb ar gyfer y gwasanaeth trenau o Lundain i ogledd Cymru a Manceinion.

Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar y Llywodraeth i ohirio arwyddo’r cytundeb newydd, sydd wedi cael ei roi i First Group yn hytrach na cwmni Virgin Trains, ac mae perchennog Virgin, Richard Branson, wedi ymbil ar David Cameron i ymyrryd.

Ond y bore ma mae Justine Greening wedi dweud na fydd oedi cyn bod y Llywodraeth a First Group yn torri llofnod ar y cytundeb a fydd yn para am 13 mlynedd.

“Byddwn ni’n gwthio mlaen gyda llofnodi’r cytundeb gyda FirstGroup, ac er bod gen i barch mawr at Virgin, dwi’n tybio y basen nhw’n berffaith hapus gyda’r broses petasen nhw wedi ennill,” meddai Justine Greening.

Roedd First wedi cynnig £5.5 biliwn am gytundeb llinell y gorllewin tra bod Virgin wedi cynnig £4.8 biliwn, ond mae Richard Branson wedi bwrw amheuaeth ar allu First Group i fforddio’r cytundeb.

Mae dros 100,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn erbyn rhoi’r cytundeb i gwmni FirstGroup yn hytrach nag i Virgin Trains.

Roedd Virgin wedi bod yn cynnal y gwasanaeth ers 1997 ac mae 31 miliwn o deithwyr yn defnyddio’r gwasanaeth yn flynyddol gan ddyblu’r nifer oedd yn ei ddefnyddio pan gafodd y cwmni’r cytundeb gyntaf.

Mae disgwyl i’r cytundeb gael ei arwyddo yfory.