Adeilad y Cynulliad
Mae arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru wedi uno i alw am bleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm datganoli ar 3 Mawrth.

Maen nhw wedi anfon llythyr at bapurau newydd trwy’r wlad yn dweud bod angen newid er mwyn gwella’r broses o greu deddfau a gwneud Cymru’n gyfartal gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Dyma’r tro cynta’ i’r pedwar – Carwyn Jones, Ieuan Wyn Jones, Nick Bourne a Kirsty Williams – ymuno i gynnal ymgyrch wleidyddol.

Y llythyr

Enghraifft o’r problemau, medden nhw, oedd fod Cymru wedi gorfod aros tair blynedd am ddeddf i wella gwasanaethau iechyd meddwl, er bod yr holl bleidiau yn y Cynulliad yn gytûn am y newid.

“Pan ddylai’r Alban a Gogledd Iwerddon (sydd hanner ein maint ni) gael y gallu i osod eu hagenda eu hunain pan nad yw Cymru’n gallu gwneud hynny,” meddai’r pedwar yn eu llythyr Saesneg.

“Er ein bod o bleidiau gwahanol, rydym wedi dod at ein gilydd i sefyll y tu ôl i egwyddor syml – y dylai cyfreithiau sydd ar gyfer Cymru’n unig gael eu gwneud yng Nghymru.”