Mari Grug
Bydd S4C yn darlledu bwletin tywydd wythnosol yn arbennig ar gyfer ffermwyr ar ôl i wylwyr ofyn amdano.

Caiff ffermwyr wybod ai tywydd mochaidd, neu haul llwynog, fydd yn eu disgwyl y diwrnod canlynol.

Dywed S4C fod galw wedi bod gan wylwyr am fwletin yn arbennig ar gyfer ffermwyr a oedd yn rhagweld tywydd yr wythnos sydd i ddod.

Bydd y bwletin cyntaf yn cael ei ddarlledu ar nos Lun 3 Medi, yn dilyn y rhaglen Ffermio a fydd yn dychwelyd i’r sianel ar ôl hoe dros yr haf.

Mae disgwyl i’r bwletin roi sylw hefyd i ddigwyddiadau yn y calendr amaethyddol, megis sioeau a marchnadoedd.

Dywedodd un o gyflwynwyr Tywydd S4C, Mari Grug ei bod  hi, fel un  a gafodd ei magu ar fferm, yn “gwybod yn iawn pa mor hanfodol yw’r tywydd i waith y ffermwr”.

“Wrth i wasanaeth Tywydd S4C ddarparu bwletin arbennig ar ddechrau wythnos, dwi’n gobeithio y bydd yn ffynhonnell fuddiol iawn i amaethwyr Cymru wrth iddyn nhw fynd ati i baratoi eu hamserlen o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos,” meddai Mari Grug.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Rhaglenni S4C fod y sianel yn falch o “allu cyflwyno’r gwasanaeth hwn yn ein hamserlen mewn ymateb i alwadau gan ein gwylwyr sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad.”