RSPCA Cymru
Mae’r RSPCA yn apelio am wybodaeth wedi i gorff ci gael ei ddarganfod yn ardal Beddau.

Cafodd y ci tebyg i derier ei ddarganfod ar dir gerllaw Heol Croescade gan aelod o’r cyhoedd ddydd Mawrth.

Dywedodd swyddogion ei bod hi’n amlwg fod coesau ôl y ci wedi cael eu clymu gan weiar drydanol, er bod y corff ei hun mewn cyflwr pydredig.

Yn ôl archwilydd yr RSPCA, Gemma Black, doedd y ci ddim yn gwisgo coler a doedd dim tag adnabod arno.

“Roedd yr anifail wedi marw mewn amgylchiadau amheus iawn, ac mae hi’n holl bwysig ein bod ni’n derbyn rhagor o wybodaeth gan y cyhoedd,” meddai.

“Mae’r ardal hyn yn boblogaidd iawn gyda phobl ifanc, ac fe fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n gwybod rhywbeth am y digwyddiad i ddod ymlaen in helpu ni gyda’n hymchwiliad.”

Mae’r RSPCA yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 0300 1234 999.