Tom Jones
Mae Tom Jones yr Undebwr wedi marw yn 67 oed yn ei gartref yn Neiniolen. Roedd wedi bod yn brwydro gyda chanser.

Roedd Tom Undab, fel yr oedd yn cael ei adnabod, yn adnabyddus fel swyddog gydag undeb y T a G yng ngogledd Cymru ac fel cynrychiolydd streicwyr ffatri Friction Dynamics yng Nghaernarfon.

Parodd y streic yn y ffatri darnau ceir am dros ddwy flynedd ar ôl anghydfod gyda’r perchnogion yn 2001.

Roedd Tom Jones hefyd yn adnabyddus am ei waith elusennol ac yn Gadeirydd ar Gymdeithas y Byddar Gogledd Cymru.

Dywedodd rheolwr y Gymdeithas, Jane Priestley,  y bydd “pawb yn gweld ei eisiau yn yr elusen.”

“Gweithiodd yn ddiflino i helpu pobol fyddar a thrwm eu clyw yn y gogledd, fel Cadeirydd y Bwrdd a thu ôl y llenni yn trefnu gwasanaethau i’r byddar ac yn yn codi ymwybyddiaeth,” meddai Jane Priestley.

Roedd hefyd yn aelod amlwg o’r Blaid Lafur ac mae Plaid Lafur Cymru wedi dweud heddiw eu bod nhw’n cydymdeimlo gyda’i deulu a’i ffrindiau.