Yr arwydd
Mae trigolion Waterlooville yn Swydd Hampshire wedi cael syndod i weld  arwydd ffordd dwyieithog, gyda’r Gymraeg yn cael blaenoriaeth.

Mae’r arwydd dros-dro yn nodi ‘Dim Marciau Ffordd’ ac wedi cael ei osod gan gwmni o gontractwyr sydd wedi bod yn gweithio yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth ar Gyngor Swydd Hampshire eu bod nhw wedi gofyn i’r contractwr newid yr arwydd.

“Ni fyddai rhywbeth fel hyn yn dderbyniol ar arwydd parhaol,” meddai Mel Kendal wrth Portsmouth News.

“Ond mae’r arwydd yn un dros-dro ac mae’r neges bwysig yn amlwg ac yn ddealladwy yn Saesneg,” ychwanegodd.