Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, wedi gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal ail ymchwiliad i gyngor Ynys Mon.

Dywedodd Carl Sargeant nad oedd problemau gwleidyddol y cyngor wedi mynd i ffwrdd, a bod angen ymyrraeth llymach er mwyn eu datrys nhw.

Daeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o hyd i wendidau difrifol iawn o fewn y Cyngor yn 2009, gan  argymell bod Llywodreath y Cynulliad yn ymyrryd er mwyn helpu i sicrhau adferiad.

Dywedodd Carl Sargeant ei fod “yn deg dweud bod y Cyngor wedi symud yn ei flaen mewn rhai meysydd”. Ond ychwanegodd nad oedd ”rhai o’r problemau mwyaf difrifol wedi diflannu”.

“Mae ymddygiad nifer o’r cynghorwyr yn awgrymu mai eu prif nod yw gweithredu er eu lles hwy eu hunain ac er mwyn eu grwpiau, yn hytrach na gweithio er budd yr ynys gyfan,” meddai.

Ymateb

Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro’r cyngor, David Bowles, ei fod yn cytuno yn llwyr gydag asesiad y gweinidog.

“Yn ei hanfod mae hwn yn fater ynglŷn â gwerthoedd personol ac ymddygiad aelodau unigol sydd â chyfrifoldeb dros £150m o arian y cyhoedd.

“ Yn anffodus er gwaethaf datblygiad helaeth, cefnogaeth a chyngor di flewyn ar dafod mae’n rhan fwyaf yn parhau i siomi pobol Ynys Môn.”

Cynghreirio ac ymgiprys’

Dywedodd Carl Sargeant fod “nifer o garfanau annibynnol cyfnewidiol yn tra-arglwyddiaethu dros wleidyddiaeth y Cyngor, ac mae’n ymddangos nad yw’r cynghreiriau hynny’n seiliedig ar lawer mwy na chyfleustra gwleidyddol”.

“Mae’r rhan fwyaf o’r swyddi ar y pwyllgor gwaith wedi’u dal gan nifer o wahanol aelodau dros y 18 mis diwethaf. Mae hefyd yn anodd weithiau dilyn trywydd y cynghreirio a’r ymgiprys o un wythnos i’r llall.

“Byddai rhai’n dweud bod gwleidyddion yn griw cecrus o ran eu hanian, ac nad yw’r hyn yr ydym wedi’i weld yn ddim mwy na gwleidyddiaeth leol arferol. Nid wyf yn cytuno â hynny.

“Nid yw o unrhyw ddiddordeb i mi pwy sy’n arwain y cyngor, na phwy sydd ar y pwyllgor gwaith. Yr hyn yr wyf fi’n ei ddisgwyl, a’r hyn sy’n hanfodol er mwyn cael adferiad, yw sefydlogrwydd.

“Yr hyn sy’n peri siom ddirfawr i mi yw bod nifer o’r rhai sydd yn awr, yn ôl pob tebyg, yn rhan o’r datblygiadau diweddar wedi rhoi addewidion personol i fy Mwrdd Adfer na fyddent yn ansefydlogi’r weinyddiaeth bresennol, a hynny er mwyn sicrhau’r arferiad. Mae’n amlwg mai addewidion ffug oedd y rhain.

“Mae hyn i gyd yn awgrymu nad oes llawer o ddim wedi newid yn ystod cyfnod ein hymyrraeth, o leiaf ym meddyliau rhai cynghorwyr.”

Dywedodd nad oedd yn beirniadu staff y cyngor a’u bod nhw’n parhau I weithio’n galed “dan amgylchiadau hynod anodd”.

“Mae clod uchel yn ddyledus iddynt am sicrhau bod gwasanaethau Ynys Môn yn parhau i fod yn dda ar y cyfan, ac weithiau’n rhagorol,” meddai.