Rasys Tregaron
Oherwydd rhagolygon anffafriol a disgwyl tywydd garw, mae Rasys Tregaron wedi’i ohirio am eleni.

Ni fydd unrhyw rasio yn digwydd ar y dydd Gwener, ac yn hytrach, bydd dau ddiwrnod o rasio yn digwydd yn Nhair Gwaith ar y dydd Sadwrn a’r Sul – 25 a 26 Awst.

“O ganlyniad i’r amodau tywydd difrifol, yn anffodus mae Clwb Trotian Tregaron wedi gorfod canslo eu rasys a oedd i’w cynnal ar benwythnos gŵyl y banc,” meddai Clwb Trotian Tregaron mewn datganiad.

Fe ddywedon nhw eu bod “yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a gan obeithio y medrwch werthfawrogi’r amgylchiadau.”

“Trueni”

Mae gofyn i hyfforddwyr ail enwebu eu ceffylau rhwng nawr a 5yh Ddydd Mercher.

“Y bwriad yw cynnal rhagrasys a ffeinal £1,000 ddydd Sadwrn a rhagrasys a ffeinal £2,000 dydd Sul, yn ogystal â rasys Cyfres Y Ddraig a rasys i’r graddau is,” ychwanegodd y datganiad.

“Gan fod CTT yn awyddus i beidio â chyfaddawdu ar gyfarfod Dyffryn Aman sydd i’w gynnal Ddydd Llun 27 Awst, mi fydd enwebiadau Tregaron yn gyfyngedig i geffylau oedd wedi enwebu i Dregaron yn flaenorol.”

Mewn ymateb i’r newyddion, fe ddywedodd Aelod Cynulliad dros Geredigion, Elin Jones, ar Twitter bod canslo’r rasys yn  “drueni.”