Lisa Gwilym
Mae Radio Cymru wedi lansio amserlen newydd ar gyfer mis Hydref.

Mae’n ymddangos fod y DJ Lisa Gwilym, sydd wedi bod yn destun ymgyrch i achub ei rhaglen rhag dod i ben, yn parhau yn ei swydd. Ond fe fydd rhaglen Gaynor Davies bob dydd Sul yn dod i ben.

Bydd Iola Wyn yn cyflwyno rhaglen newydd o’r de-orllewin, stiwdio Caerfyrddin, am 10.30 bob bore o’r wythnos heblaw am benwythnosau.

Bydd y rhaglen hon yn cael ei chynhyrchu gan gwmni annibynnol Telesgop, ac yn cael ei recordio o stiwdio’r BBC yng Nghaerfyrddin.

Mewn e-bost mewnol i staff y BBC bore ma, dywedodd Lowri Davies, Golygydd Rhaglenni Cyffredinol Radio Cymru, eu bod yn “buddsoddi yn sylweddol yn y stiwdio hon, ac fe fydd gwaith yn digwydd dros y misoedd nesaf i’w hadnewyddu.”

C2

Mewn newid arall i’r amserlen, bydd canwr Y Bandana, Gwilym Rhys, yn ymuno â thîm C2 i gyflwyno rhaglen fyw ar nosweithiau Gwener o fis Hydref tan ddiwedd Mawrth.

O fis Ebrill ymlaen, fe fydd Sioned Mills, sy’n adnabyddus fel un o gyflwynwyr podlediad Hacio’r Iaith, yn cyflwyno’r slot.

Bydd yr awr ar gyfer rhaglenni dogfen gerddorol yn symud o nos Fercher i nos Wener rhwng 9 a 10 am hanner y flwyddyn.

Bydd y slot yma’n cael ei neilltuo ar gyfer talent cyflwyno newydd am weddill y flwyddyn “fel rhan o ymroddiad Radio Cymru i feithrin lleisiau newydd,” ychwanegodd Lowri Davies.

Sesiwn Fach

O fis Hydref ymlaen, bydd Sesiwn Fach estynedig yn cael ei darlledu ar brynhawn Dydd Sul (3-4.30) gydag Idris Morris Jones yn cyflwyno, a chyflwynwyr gwadd “yn achlysurol”.

Golyga hyn y bydd rhaglen Gaynor Davies ar brynhawn Dydd Sul yn dod i ben.

“Rydym yn colli rhai rhaglenni a chyflwynwyr oherwydd toriadau ariannol – ac nid yw hynny’n adlewyrchiad o berfformiad ac ymroddiad timau cynhyrchu,” meddai Lowri Davies wrth ei staff.

Amserlen

Dyma amserlen C2 o fis Hydref ymlaen:

Nos Lun – Huw Stephens (7-10)

Nos Fawrth – Ifan Evans (7-10)

Nos Fercher – Lisa Gwilym (7-10)

Nos Iau – Georgia Ruth Williams (7-10)

Nos Wener – Gwilym Rhys/Sioned Mills (6.30 – 9) + rhaglenni dogfen/talent newydd (9-10)