Machynlleth
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi y bydd gwaith i wella’r ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth yn dechrau’n fuan.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi’r contract gwerth £10 miliwn i wella’r A487 yng Nglandyfi, i Carillion Construction Ltd.

Bydd tua 1.3 cilomedr o gefnffordd ar yr A487 trwy gymuned Glandyfi yn cael ei wella a’i ledaenu.

Mae’r ffordd yn gyswllt priffordd hanfodol o’r gogledd i’r de ar gyrion gorllewinol Cymru.

Mae troeon cas ar y rhan hon o’r ffordd, sy’n golygu na all gyrwyr weld yn bell o’u blaenau, ac mae’n hynod gul, sy’n rhwystro llif traffig.

Ond nid oes cefnffordd arall rhwng Aberystwyth a Machynlleth, heb gael eich dargyfeirio hanner can milltir.

Bydd angen torri’r creigiau ar ymyl y ffordd hyd at 14 metr o ddyfnder mewn dau fan, ac adeiladu nifer o waliau cynnal, a phob un ohonynt â gorchudd cerrig.

Bwriedir dechrau’r gwaith yn ystod y mis nesaf, a’i gwblhau ddiwedd 2012.

‘Lleihau oedi’

“Bu llawer o ddiddordeb yn y gwelliannau hyn, ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r cynllun hwn, y mae angen mawr amdano, i wella amodau ar y ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth,” meddai Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog Trafnidiaeth.

“Prif nod y gwelliant hwn yw caniatáu i gerbydau basio’n hwylus, a lleihau’r oedi ar y rhan hon o’r ffordd.

“Mae’r gyfradd ddamweiniau, oherwydd culni’r rhan hon o’r ffordd, yn uwch na’r gyfradd genedlaethol ar gyfer ffordd o’r categori hwn, felly mae angen y gwelliannau i wella diogelwch.”