Mae’r sefydliad cadwraethol WWF Cymru wedi dweud bod angen ffeithiau a thystiolaeth cyn symud ymlaen gyda’r cynllun i adeiladu Morglawdd Hafren.

Daw’r rhybudd ar ôl i’r Prif Weinidog David Cameron gyhoeddi ei fod wedi gofyn i swyddogion ail-edrych ar y cynlluniau ar gyfer y prosiect.

Dywedodd Swyddog Polisi WWF Cymru, Alun James: “Gyda’r cynllun diweddaraf hwn am forglawdd, mae ein neges i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r datblygwyr yn glir – rhowch y ffeithiau a dangoswch y dystiolaeth i ni.

“Rydyn ni’n falch fod y Llywodraeth yn edrych ar brosiectau ynni adnewyddadwy yn lle gorsafoedd pŵer ffosil neu niwclear newydd, ond yn achos Morglawdd Hafren, rydyn ni eisiau gweld llawer mwy o ymchwil yn cael ei gwneud.”

“Fel y dangoson ni yn ein hadroddiad ‘Positive Energy’, rydym yn cefnogi symudiad mawr i ynni adnewyddadwy fel y gallwn gael cyflenwad ynni fforddiadwy a dibynadwy yn ogystal ag amgylchedd iach.

“Fodd bynnag, er mwyn i ynni llanw Afon Hafren chwarae ei ran, mae angen llawer mwy o ymchwil ar yr effeithiau amgylcheddol ac ar y ffyrdd gwahanol y gellid harneisio pŵer Afon Hafren.”

‘Effeithiau amgylcheddol’

Mae’r Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlypdiroedd eisoes wedi annog y Llywodraeth i roi ystyriaeth i gasgliadau’r Astudiaeth Dichonolrwydd i Ynni’r Llanw ar Afon Hafren.

Daeth yr astudiaeth £9 miliwn i ben dair blynedd yn ôl gan ddarganfod nifer o resymau dros beidio bwrw ‘mlaen â’r cynllun.

Roedd hyn yn cynnwys colli cynefinoedd a’r risg cynyddol o lifogydd ac erydiad mewn mannau eraill.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cadwraeth y cwmni, Dr Debbie Pain, “Aber Afon Hafren yw’r lle iawn i edrych am egni llanw oherwydd y llanw mawr. Fodd bynnag, ni ddylai hynny fod ar draul yr amgylchedd naturiol.

“Diolch i’r astudiaeth, rydym bellach yn gwybod beth fyddai adeiladu morglawdd ar draws aber Afon Hafren yn ei olygu i’r amgylchedd yno,” ychwanegodd.

Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod ffyrdd eraill o gynhyrchu egni uchel ar lai o gost a niwed i fywyd gwyllt.

Mae’r WWT yn credu y dylai’r llywodraeth anelu ei holl ymdrechion tuag at ymchwilio i mewn i raglenni technolegol newydd.

Mae Cyfeillion y Ddaear eisoes wedi cyfaddef bod angen harneisio ynni’r llanw ond nad y cynllun hwn yw’r ateb cywir.