Bydd rhaglen ddogfen am y llofrudd Ian Brady yn cael ei darlledu heno er gwaethaf marwolaeth ddiweddar mam un o’i ddioddefwyr, cadarnhaodd Channel 4 heddiw.

Bu farw Winnie Johnson yn 78 oed ddydd Sadwrn ar ôl bod yn dioddef o ganser.

Hi oedd mam Keith Bennett, bachgen 12 oed a gafodd ei ladd gan Ian Brady a Myra Hindley ym 1964.

Mewn datganiad, dywedodd Channel 4, “Bydd y rhaglen ddogfen yma’n cael ei darlledu heno fel y cytunwyd â theulu Winnie Johnson.

“Fe fydd rhai newidiadau i adlewyrchu marwolaeth drist Winnie ond fel arall bydd y ffilm yn aros yr un fath.”

Archwilio tŷ yn Llanelli

Dywedodd cyn gyfreithiwr Winnie Johnson, David Kirwan, ei bod hi’n greulon ac eironig ei bod hi wedi marw yn fuan ar ôl y datblygiad diweddar pan gafodd dynes ei harestio yn Llanelli ar amheuaeth o atal corff rhag cael ei gladdu.

Mae’r heddlu yn amau fod Ian Brady wedi datgelu wrth Jackie Powell, ei eiriolwr iechyd meddwl am 15 mlynedd, ble cafodd corff Keith Bennett ei gladdu.

Mae’r heddlu eisoes wedi archwilio tŷ Jackie Powell. Mae hithau wedi dweud wrth gynhyrchwyr y rhaglen ddogfen ei bod wedi derbyn amlen oddi wrth Brady drwy law ei gyfreithwyr sy’n cynnwys llythyr wedi ei gyfeirio at Mrs Johnson, i’w agor ar ôl i Brady farw.

Mae heddlu Manceinion wedi dweud eu bod nhw eisiau amser i archwilio’r holl dystiolaeth er mwyn darganfod a ydi’r llythyr yn bodoli.

Gwrthod bwyta

Fe lofruddiwyd pump o blant gan Ian Brady a Myra Hindley rhwng 1963 ac 1965. Fe gawson nhw eu claddu ar waun Saddleworth ger Manceinion.

Corff Keith Bennett, mab Winnie Johnson, ydi’r unig un sydd heb gael ei ddarganfod.

Mae Ian Brady yn 74 oed ac yn cael ei gadw yn Ysbyty Meddwl Ashworth lle mae wedi gwrthod bwyta ers 12 mlynedd.

Bydd Cutting Edge, Ian Brady: Endgames of a Psychopath yn cael ei darlledu ar Channel 4 am 9yh heno.