Mae cannoedd o bobol wedi bod yn gwrthdystio yng Ngwlad Y Basg o blaid rhyddhau carcharor ETA sy’n ddifrifol wael.

Mae Iosu Uribetxebarria  yn dioddef o ganser yr aren ac roedd tua mil o bobol wedi cynnal rali yn Bilbo ddydd Sadwrn er mwyn galw am ei ryddhau.

Yn 1998 cafodd Iosu Uribetxebarria  ei ddedfrydu i 32 mlynedd o garchar am herwgipio swyddog yn y gwasanaeth carchardai yng Ngwlad y Basg.

Mae’r ymgyrch i’w ryddhau wedi cael ei ehangu i gynnwys carcharorion eraill sy’n ddifrifol wael, a’r wythnos ddiwethaf cynhaliodd dros gant o garcharorion ETA yn Sbaen a Ffrainc ympryd er mwyn rhoi statws arbennig i garcharorion sy’n sâl.

Mae mudiad ETA wedi bod yn brwydro o blaid Gwlad y Basg annibynnol yng ngogledd Sbaen a de-orllewin Ffrainc ers dros 50 mlynedd, ac wedi lladd dros 800 o bobol, medd Llywodraeth Sbaen.