Mae’r byd criced yn dod ynghyd am 11 o’r gloch y bore yma i gyhoeddi lansiad cronfa goffa Tom Maynard.

Cafodd Tom, oedd yn 23 oed, ei ganfod wedi marw ar gledrau trên tanddaearol yn Llundain ar Fehefin 18.

Chwaraeodd dros glwb Morgannwg cyn symud i Surrey ar gyfer tymor 2011, ac mae ei dad Matthew yn gyn-gapten a chyn-hyfforddwr Morgannwg.

Yn dilyn marwolaeth Tom cafodd cronfa ei sefydlu i helpu cricedwyr ifanc dan anfantais i ddatblygu eu gyrfa yn y byd criced.

Mae’r gronfa yn gofyn i ddefnyddwyr Twitter i drydar neges o gefnogaeth ar y ddolen #tmt55  am 11 o’r gloch y bore yma, pan fydd grŵp o gefnogwyr y gronfa yn cychwyn ar daith feiciau o Gaerdydd i Lundain.

Bydd rhai o chwaraewyr a chyn-chwaraewyr Morgannwg, gan gynnwys Matthew Maynard a Steve James, yn cymryd rhan yn y daith, yn ogystal â chyn-chwaraewr Lloegr, Andrew Flintoff a chynrychiolwyr eraill o Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol.

Bydd y daith yn para dau ddiwrnod, ac yn gorffen yng nghae criced yr Oval, cartref tîm criced Surrey, ychydig cyn eu gêm 40 pelawd yn erbyn Morgannwg ddydd Mawrth.

Bydd y ddau dîm yn gwisgo crysau â rhif Tom Maynard ar eu cefnau. Gwisgodd grys rhif 33 i Forgannwg a 55 i Surrey.

Mae cinio yn cael ei chynnal yn yr Oval nos Fawrth i godi arian at y gronfa.