Ian Brady
Mae Jackie Powell, eiriolwr iechyd meddwl y llofrudd Ian Brady, wedi beirniadu’r heddlu’n hallt ar ôl iddi gael ei arestio ar amheuaeth o atal corff rhag cael ei gladdu.

Dywedodd fod arfau gan rhai o’r heddlu wnaeth archwilio ei chartref yn Llanelli, eu bod wedi ei thrin yn arw, ac wedi mynd â hi oddi yno mewn gefynnau llaw.

Roedd yr heddlu yn chwilio am lythyr a dderbyniodd Jackie Powell gan gyfreithwyr Brady sydd wedi ei gyfeirio at fam Keith Bennett, y plentyn 12 oed a laddwyd ganddo yn 1964 .

Bu farw mam Keith, Winnie Johnson, ddoe yn 78 oed heb gael gwybod lle oedd corff ei mab wedi cael ei gladdu gan Brady a Myra Hindley. Cyfarwyddiadau Brady oedd y dylai Winnie dderbyn y llythyr ar ôl ei farwolaeth yntau.

Mae Ian Brady yn 74 oed. Mae’n cael ei gadw yn Ysbyty Meddwl Ashworth ac mae wedi gwrthod bwyta ers 12 mlynedd.

Dywedodd Jackie Powell wrth bapur newydd y Sunday Times ei fod wedi cysylltu â Heddlu Manceinion i ddweud wrthyn nhw am y llythyr ym mis Awst ond nad oedden nhw wedi dangos llawer o ddiddordeb yn y mater yr adeg hynny.

Mae Heddlu Manceinion wedi dweud eu bod nhw eisiau amser i archwilio’r holl dystiolaeth er mwyn darganfod a ydi’r llythyr yn bodoli.

Mae Jackie Powell wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Mae hefyd wedi beirniadu gwneuthurwr ffilm am Ian Brady fydd yn cael ei darlledu ar Channel 4. Dywedodd wrth y Sunday Times ei bod hi’n teimlo ei bod hi wedi cael ei defnyddio.