Collodd mam i ddau o blant reolaeth ar feic modur a llithro dan olwynion car 4×4, clywodd cwest heddiw.

Fe fu farw Cheryl Cutter, 42 oed, o fewn wythnosau o basio prawf beic modur ar ei Honda 125cc newydd.

Roedd ei gŵr Ian Cutter, 41, a’i merch Abigail, 12 oed, yn ei dilyn hi mewn car pan gollodd Cheryl Cutter reolaeth ar 3 Hydref y llynedd.

Gwyliodd y ddau wrth i’r beic modur lithro gan adael craith 13 metr o hyd ar y ffordd, cyn taro car arall.

Dywedodd Ian Cutter wrth y cwest yng Nghasnewydd ei fod wedi cwrdd â’i wraig pan oedd yn 17 oed a hithau’n 18.

Roedden nhw wedi prynu beic modur â’i gilydd ar ei ben blwydd ac wedi cymryd eu tro yn ei yrru ar y ffordd.

Er ei bod hi’n gwisgo dillad amddiffynnol dioddefodd sawl anaf angheuol.

“Roedden ni wedi prynu’r stwff drutaf yr oedden ni’n gallu ei fforddio,” meddai Ian Cutter.

“Roedd ganddi badiau ar ei hysgwyddau, ei phenelinoedd a’i phen-gliniau. Roedd ganddi helmet a’r gweddill i gyd.”

Cofnododd y crwner David Bowen ei bod hi wedi marw o ganlyniad i ddamwain.