Mae ymgyrchwyr yn erbyn ffermydd gwynt ym Mhowys yn rhybuddio bod y frwydr “yn poethi” a bod rhai ohonyn nhw’n ystyried torri’r gyfraith.

Fe ddywedodd cadeirydd un o’r mudiadau protest ei fod wedi gorfod gofyn i swyddogion diogelwch ymyrryd rhag iddi fynd yn ymladd rhwng y gwrthwynebwyr a staff y Grid Cenedlaethol sydd eisiau codi is-orsaf drydan fawr a pheilonau i gario pŵer o’r ffermydd.

Mae Alison Davies, cadeirydd mudiad arall, Cadwraeth Ucheldir Powys, wedi rhybuddio bod rhai gwrthwynebwyr yn troi’n “flin” ac yn “ymosodol” a bod yr arweinwyr yn gorfod gweithio’n galed i’w rhwystro rhag troi at weithredu uniongyrchol.

Roedd y sefyllfa’n debyg i Dryweryn, meddai Jonathan Wilkinson, Cadeirydd Montgomeryshire Against Pylons, wrth gylchgrawn Golwg.

Mae nifer o gyfarfodydd protest a chyfarfodydd cyhoeddus wedi eu cynnal, ac fe fydd un arall heno.

Mae’r stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg