Mae ffermwyr wedi beirniadu cwmni mawr lleol am fod yn ara’ i gynnig pris teg am laeth.

Yn ystod Sioe Dinbych a Fflint heddiw, mae undeb NFU Cymru wedi condemnio Iceland, sydd âu pencadlys yn Sir y Fflint, am lusgo’u traed.

Mae’r cwmni’n gwadu hynny, gan ddweud eu bod nhw wedi cael cyfarfodydd “adeiladol” gyda chynrychiolwyr y ffermwyr llaeth.

Er ei bod yn “galonogol” bod Iceland wedi cytuno i edrych ar fodel newydd ar gyfer prynu llaeth, roedd NFU Cymru’n mynnu bod rhaid barnu’r cwmni “ar yr hyn maen nhw’n gwneud ac nid dim ond geiriau.”

Pwysleisiodd Iceland eu bod nhw’n gefnogwr mawr i ddiwydiant llaeth gwledydd Prydain ac yn prynu eu holl laeth ffres a bron y cyfan o’u cynnyrch llaeth gan broseswyr Prydeinig.

Cryfhau rôl ffermwyr

Yn ôl NFU Cymru mae cynhyrchu llaethyn costio 4c yn fwy i rai ffermwyr na’r pris y maen nhw’n ei gael am ei werthu.

“Mae ein hymgyrch yn canolbwyntio ar dri maes penodol – rhoi sylw i arfer gwael, ail-ddiffinio a chryfhau rôl y ffermwyr yn y gadwyn gyflenwi, a gwneud yn siŵr fod y gadwyn yn deg,” meddai  Ivor Beech o Ruddlan, Cadeirydd sir Clwyd NFU Cymru.

Mae rhai archfarchnadoedd wedi ymrwymo i wneud yn siwr fod ffermwyr llaeth yn cael prisiau teg, medd NFU Cymru, ond dyw eraill ddim wedi cadarnhau eu polisi nhw ar brisiau llaeth.