Aderyn y to (Diliff CCA3.0)
Mae’r haf gwael wedi achosi trafferthion mawr i rai adar, yn ôl arolwg anferth o fywyd gwyllt yng ngwledydd Prydain.

Yng Nghymru, aderyn y to yw’r rhywogaeth fwya’ cyffredin gyda’r aderyn du a’r ysguthan yn ail a thrydydd.

Yn gyffredinol, roedd llawer llai o gywion wedi eu gweld gan y 78,000 o bobol a gymerodd ran yn arolwg gerddi blynyddol y gymdeithas warchod adar, yr RSPB.

Roedd hynny’n arbennig o wir am y fronfraith, yr aderyn du a’r robin – er bod mwy nag arfer o oedolion wedi’u gweld.

Effaith y tywydd

Yn ôl y gymdeithas, roedd hynny’n awgrym fod y tywydd wedi bod yn rhy arw i gywion fyw, gyda phrinder bwyd ar eu cyfer.

Roedd gostyngiad yn niferoedd dau o’r adar mudol mwya’ poblogaidd hefyd – gwennol y bondo a’r wennol ddu.

Roedd yr arolwg yn awgrymu bod niferoedd gwenoliaid y bondo tua 25% yn is, gyda gostyngiad o 10% yn niferoedd y wennol ddu, sydd eisoes yn aderyn mewn peryg.

Adar mwya’ cyffredin Cymru

Roedd yr arolwg yn cyfri’r adar a gafodd eu gweld mewn gerddi a pharciau yn ystod un awr rhwng 2 a 10 Mehefin.

Roedd yr 20 rhywogaeth uchaf yr un peth yng Nghymru ac yng ngwledydd Prydain i gyd, ond fod y drefn ychydig yn wahanol.

Dyma’r 20 uchaf yng Nghymru:

1, Aderyn y to; 2, Aderyn Du; 3, Ysguthan; 4, Asgell Fraith; 5, Nico; 6, Titw Tomos Las; 7, Jac-do; 8, Turtur Dorchog; 9, Titw Mawr; 10, Llwyd y Berth; 11, Drudwy; 12, Llinos Werdd; 13, Pioden; 14, Robin Goch; 15, Gwennol Ddu; 16, Titw Penddu; 17, Gwennol y Bondo; 18, Titw Cynffon Hir; 19, Bronfraith; 20, Dryw.