Cafodd y briffordd trwy Borth, Aberystwyth, ei gau am gyfnod fore heddiw ar ôl tan mewn fflat yn ystod oriau man y bore.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i’r tân mewn fflat uwch ben Steeplejacks Pizzeria am tua hanner awr wedi pump y bore.

Roedd yr adeilad yn wenfflam pan gyrhaeddodd y gwasanaethau, ond roedd pawb oedd yn yr adeilad bellach yn saff, medden nhw.

Fe fydd yr Heddlu yn ymchwilio ymhellach.