Mae dyn wedi marw ar reilffordd ger Merthyr Tudful ar ôl cael ei daro gan drên, cadarnhaodd yr heddlu heddiw.

Galwyd ar Heddlu De Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn dilyn y gwrthdrawiad toc cyn 6pm yng ngorsaf rheilffordd Ynysowen ddoe.

Roedd y dyn wedi ei daro gan drên 17.38 Merthyr i Ben-y-bont ar Ogwr.

Ar hyn o bryd, dyw’r heddlu ddim yn ystyried y gwrthdrawiad yn un amheus.

“Roedd parafeddygon o wasanaeth Ambiwlans De Cymru yn bresennol hefyd a daethpwyd o hyd i gorff dyn, sy’n 47 blwydd oed, o Barc y Rhath, Caerdydd, ar y safle,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae ymchwiliadau’n parhau ac fe  fydd ffeil yn cael ei baratoi ar gyfer y crwner”.