Mae ffigyrau gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod nifer ybobol sy’n cael eu lladd ar ffyrdd Cymru yn llai nag ers dechrau cyfnod moduro.

Dyma’r tro cyntaf erioed i’r ffigwr fynd islaw 100.

Mae adroddiad Marwolaethau Traffig y Ffyrdd yn dangos y bu 89 o farwolaethau ar ffyrdd Cymru yn 2010, sef yr isaf ers y tro cyntaf i ffigurau ar wahân gael eu casglu ar gyfer Cymru yn 1968.

Ond wrth edrych ar y patrwm ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, mae’n bosibl y gwelwyd y nifer lleiaf o farwolaethau ar y ffyrdd yng Nghymru ers yr 1920au, meddai’r adroddiad.

Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi darganfod bod lleihad o 71% yn nifer y marwolaethau ymhlith plant yng Nghymru, o’u cymharu â ffigurau 1994-98.

“Mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod ffyrdd Cymru yn fwy diogel ar gyfer pob un sy’n eu defnyddio ac rydym yn croesawu’r ffigurau hyn yn fawr iawn,” meddai Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog Trafnidiaeth.

“Dyma’r ffigwr isaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru ac mae’n dangos bod hyrwyddo gyrru mwy diogel drwy addysg effeithiol, gwelliannau diogelwch ar ein ffyrdd a chosbau llymach yn talu’i ffordd.”

Er bod y ffigyrau yn rhai “calonologol iawn”, roedd angen gwneud rhagor er mwyn atal damweiniau ar y ffyrdd, meddai.

“Mae’n rhaid i negeseuon am ddiogelwch ar y ffyrdd barhau i gael eu clywed, yn enwedig ymhlith gyrwyr ifanc,” meddai Ieuan Wyn Jones.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r consortia trafnidiaeth Rhanbarthol a gweithwyr ym maes diogelwch ffyrdd i weld os oes mwy y gallwn ni ei wneud i addysgu gyrwyr ifanc am beryglon gyrru a’u rhybuddio y gallai rhywbeth fynd o’i le bob tro y byddant yn mynd mewn cerbyd.”

Yr ystadegau

Yn ystod 2010, yr oedd 82 o ddamweiniau angheuol yng Nghymru a arweiniodd at 89 o farwolaethau, sy’n 36 yn llai na’r nifer a laddwyd yn ystod 2009, sef cwymp o 29 y cant.

Golyga hynny, yn 2010 gwelwyd y nifer lleiaf o farwolaethau o ganlyniad i ddamweiniau ar y ffyrdd yng Nghymru ers 1968, sef y tro cyntaf i ffigurau ar wahân gael eu casglu ar gyfer Cymru.

Yn y cyfnod diweddar gwelwyd y nifer mwyaf o farwolaethau ar y ffyrdd  yng Nghymru ym 1973 pan laddwyd 424 o bobl, ond ar y cyfan gwelwyd cwymp yn nifer y marwolaethau yn ystod y blynyddoedd a oedd yn dilyn, gan ddisgyn i 161 erbyn 2007.

Dros y tair blynedd nesaf gwelwyd lleihad cyson yn nifer y marwolaethau ar y ffyrdd.