Jamie Bevan
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ymyrryd er mwyn sicrhau bod yr ymgyrchydd iaith, Jamie Bevan, yn cael gwneud galwadau ffôn yn Gymraeg.

Roedd Jamie Bevan wedi cwyno nad oedd yn cael gwneud galwadau ffôn yn y Gymraeg, o garchar Gaerdydd.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, ei bod hi wedi bod mewn cysylltiad â’r carchar.

Mae un o uwch swyddogion y Carchar wedi sicrhau’r Comisiynydd nad oes unrhyw rwystr i Jamie Bevan wneud galwadau yn y Gymraeg, meddai.

Dywedodd y Comisiynydd ei bod hi wedi anfon llythyr at y Llywodraethwr i gadarnhau’r sgwrs ffôn ynghyd â gofyn am ymateb unionsyth gan Michael Spurr, Prif Weithredwr Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol.

Daw hyn wedi i Wasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi ymddiheuro am anfon gohebiaeth uniaith Saesneg at Jamie Bevan, a gafodd ei ddedfrydu i 35 diwrnod yn y carchar bore ddoe.

Roedd Jamie Bevan wedi gwrthod talu dirwy yn dilyn protest mewn swyddfa Aelod Seneddol am fod yr ohebiaeth a dderbyniodd gan y llysoedd yn uniaith Saesneg ac yn groes i’w cynllun iaith nhw.

Dywedodd Gwasanaeth y Llysoedd wedi ymddiheuro gan ychwanegu eu bod am ymchwilio i’r mater.