Mae plaid wedi herio arweinwyr y cyngor sir i ddangos faint o’r llaeth a gyflenwir trwy gontractau’r cyngor sy’n gynnyrch lleol, ac os yw ffermwyr yn cael pris teg amdano.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cynhyrchu mwy o laeth na’r un arall yng Nghymru.

Bydd aelodau Plaid Cymru ar Gyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i’r awdurdod adolygu ei bolisïau a’i gytundebau, er mwyn rhoi cymorth ymarferol i’r diwydiant llaeth mewn cyfnod lle mae’r prisiau’n syrthio.

“Gallai’r cyngor roi cymorth ymarferol i’r diwydiant trwy sicrhau bod ei gontractau pwrcasu sylweddol yn darparu marchnad a phris teg am laeth a chynhyrchion llaeth i ffermwyr lleol,” meddai’r Cynghorydd Tyssul Evans, dirprwy arweinydd grŵp y Blaid ar y cyngor sir.

“Dywedodd Arweinydd y Cyngor Sir, Kevin Madge, bod y cyngor am ymroi i gefnogi ffermwyr,” ychwanegodd. “Wel, nawr yw’r amser i brofi bod yr ymrwymiad hwnnw’n fwy na geiriau gwag.

“Rydym yn ei herio i ddatgelu faint yn union o’r llaeth a chynnyrch llaeth a gyflenwir i ysgolion, cartrefi preswyl ac ati, sy’n dod o ffermydd ein sir.”

‘Cytundeb pris teg’

Bydd Plaid Cymru, y grŵp mwyaf ar gyngor a reolir gan glymblaid Lafur/Annibynnol, yn gofyn i’r cyngor sir i adolygu ei bolisïau a’i gontractau er mwyn cefnogi ffermwyr llaeth lleol.

Bydd y Blaid hefyd yn annog y cyngor i ystyried ymrwymo i “gytundeb pris teg” undeb ffermwyr yr NFU.

Mae’r undeb yn gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru i sicrhau bod eu cyflenwyr yn talu pris teg i gynhyrchwyr llaeth.

“Fe wnaeth Pam Palmer, aelod Materion Gwledig y cyngor, ddatgan y dylid gweithredu egwyddor Masnach Deg wrth gefnogi ein ffermwyr a chynnyrch lleol,” meddai Tyssul Evans.

“Rydym yn ei herio i brofi bod ein ffermwyr llaeth yn derbyn pris teg am eu cynnyrch trwy gontractau’r cyngor.”