Pa ffordd mae'r gwynt yn chwythu?
Mae ffermwyr moch Cymru wedi rhybuddio bod y sector mewn “argyfwng” a’u bod nhw’n cael eu gwasgu gan gostau bwydydd uchel a chystadleuaeth gan gig moch rhad o dramor.

Ar ddiwrnod cyntaf Sioe Môn dywedodd Christine Jones, Cadeirydd undeb yr NFU ym Môn a ffermwr moch, y bydd yr hwch wedi mynd drwy’r siop i nifer o ffermwyr Cymru os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud yn fuan.

“Mae amser yn brin ar gyfer achub y diwydiant moch yng Nghymru,” meddai.

“Ein cost mwyaf yw bwydydd i’r moch, sy’n cynrychioli 60% o’n costau cynhyrchu, ac mae’r cynnydd mawr ym mhrisiau bwydydd yn sgil y tywydd a’r cynaeafau grawn sâl yn mynd i gael effaith trychinebus ar ffermwyr moch Cymru.”

Dywed NFU Cymru fod nifer y moch yng Nghymru wedi disgyn o 67,800 yn 2000 i 25,800 eleni, a bod nifer y moch bridio wedi haneru.

Mae mewnforio porc rhatach o dramor yn ychwanegu’r pwysau ar y ffermwyr moch o Gymru medd yr NFU, ac yn gwthio nifer allan o’r diwydiant.

“Mae angen i brynwyr ein cig moch dalu pris sy’n adlewyrchu gwir gost cynhyrchu porc sy’n cwrdd â’r safonau uchaf o ran iechyd, lles a’r amgylchedd,” mynnodd Christine Jones.