Cafodd dyn ei arestio ar ôl i stondin Llywodraeth Cymru yng ngŵyl Geltaidd fawr An Oriant (Lorient) godi gwrychyn cenedlaetholwyr Llydewig.

Roedd gan Lywodraeth Cymru fap o gymunedau yn Llydaw sydd wedi gefeillio gyda threfi yng Nghymru, ond roedd sir Loire Atlantique, sy’n cynnwys prifddinas draddodiadol Llydaw, Naoned (Nantes), wedi ei chynnwys y tu allan i Lydaw ar y map.

Mae Loire Atlantique wedi bod yn rhan o ranbarth Pays de Loire ers y Chwyldro Ffrengig yn 1790 ond mae nifer o Lydawyr yn ystyried ei bod hi’n rhan o ranbarth Llydaw ac mae ymgyrch ers blynyddoedd i ddod â’r sir dan weinyddiaeth rhanbarth Llydaw.

Yn ôl gwefan Lydewig Seizh ceisiodd ymgyrchwyr o fudiad Ailuno Llydaw, oedd â stondin gerllaw un Llywodraeth Cymru, newid y map ddydd Gwener a bu ffrwgwd.

Cafodd dyn o Lydaw ei arestio ar ôl i gynrychiolydd o Gymru wneud cŵyn i’r heddlu,  a bore trannoeth cynhaliodd 15 o ymgyrchwyr Llydewig wrthdystiad ar stondin Llywodraeth Cymru.