Mae’r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth dynes canol oed ym Mae Colwyn.

Daethpwyd o hyd i’w chorff ar Stryd Penrhyn y dref arfordirol am 1.15pm ddoe.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ystyried y farwolaeth yn un heb esboniad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y crwner wedi cael gwybod.

Does dim manylion pellach ar gael ar hyn o bryd.