jamie Bevan
Mae Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi wedi ymddiheuro am anfon gohebiaeth uniaith Saesneg at ymgyrchydd iaith a gafodd ei ddedfrydu i’r carchar y bore ma.

Roedd Jamie Bevan wedi gwrthod talu dirwy yn dilyn protest mewn swyddfa Aelod Seneddol am fod yr ohebiaeth a dderbyniodd gan y llysoedd yn uniaith Saesneg ac yn groes i’w cynllun iaith nhw.

Brynhawn yma, mae Gwasanaeth y Llysoedd wedi ymddiheuro gan ychwanegu eu bod am ymchwilio i’r mater.

“Yn ôl ein Cynllun Iaith, mae Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi wedi ymrwymo i ofyn i bob defnyddiwr llys yng Nghymru, ar y cyswllt cyntaf, p’un ai yr hoffen nhw gael gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg ac i gadw cofnod o’r dewis,” meddai llefarydd.

“Ar yr achlysur yma fe fethon ni â gwneud hynny ac rydym ni’n ymddiheuro am hynny.”

“Rydym ni’n ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd yn yr achos yma er mwyn atal y peth rhag digwydd eto.”

Cafodd Jamie Bevan, tad i bedwar o blant o Ferthyr Tudful, ei ddedfrydu gan ynadon Merthyr Tudful i 35 diwrnod yn y carchar.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod Gwasanaeth y Llysoedd wedi ymddiheuro o’r blaen am eu hanallu i anfon gohebiaeth ddwyieithog.

“Maen nhw wedi ymddiheuro rhyw dair neu bedair gwaith yn ddiweddar ac mae na bwynt yn dod pan mae’n rhaid iddyn nhw stopio ymddiheuro a gwneud rhywbeth am y mater,” meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas.