Dafydd Iwan
Mae gan Gymru ddyled “fawr iawn, iawn” i Eileen Beasley, a fu farw heddiw yn 91 oed.

Dyna eiriau Dafydd Iwan, cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith – mudiad a sefydlwyd yn rhannol oherwydd ymdrechion Eileen a’i gŵr Trefor Beasley.

Mae’r mudiad yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant eleni, a dywedodd Dafydd Iwan bod safiad y Beasleys wedi ysbrydoli sefydlwyr y mudiad.

“Roedd eu safiad nhw mor gyfrifol am sefydlu’r Gymdeithas ag unrhyw beth arall,” meddai.

Gwrthododd Eileen a’i gŵr, Trefor, dalu’r dreth gyngor yn 1952 am fod y ffurflen gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn uniaith Saesneg.

Fe aeth y beilïaid a’u dodrefn sawl gwaith, gan adael dim ond gwelyau, bwrdd y gegin a phedair cadair.

Cyfeiriodd Saunders Lewis at frwydr Eileen a Trefor Beasley fel esiampl o’r hyn y gellid ei gyflawni dros y Gymraeg yn ei ddarlith enwog Tynged yr Iaith.

“Roeddwn i’n gyfarwydd iawn â nhw, am eu bod nhw mor weithgar yn ymgyrchoedd y Gymdeithas yn y 60au a’r 70,” meddai Dafydd Iwan, a fu’n gadeirydd ar y Gymdeithas rhwng 1968 a 1971.

“Rydw i eisoes wedi talu teyrnged i beth wnaethon nhw sawl gwaith yn ystod yr Eisteddfod yr wythnos yma yn barod, gan ei fod yn 50 mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas.

“Mae gan Gymru ddyled fawr iawn, iawn i’r Beasleys. Mae’n newyddion trist iawn ac fe fydd hi’n gadael bwlch ar ei hol hi.

“Y peth pwysig nawr ydi ein bod ni’n cydnabod ei chyfraniad hi a’i gŵr Trefor, a phwysigrwydd eu hymgyrch nhw dros yr iaith Gymraeg.”

‘Cario’r fflam’

Dywedodd Angharad Tomos, cyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a drefnodd deyrnged i’r teulu ar faes yr Eisteddfod, bod “ein dyled yn ddwfn iddi fel mam gweithredu uniongyrchol”.

“Pan nad oedd cynsail i weithredu o’r fath yng Nghymru, dangosodd Eileen Beasley y ffordd, a dyfalbarhau yn unigrwydd ei gobaith,” meddai.

“Yfory bydd Jamie Bevan yn Llys Ynadon Merthyr, a dyna’r cyfle cyntaf i aelodau Cymdeithas yr Iaith ddod ynghyd i gario fflam Eileen Beasley ymlaen.”