Maes Eisteddfod yr Urdd
Ni fydd gan BBC Cymru stondin i’r cyhoedd ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe eleni.

Fe fydd y BBC yn arbed £6,500 ond mae’n bwriadu cael stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst.

“Yn sgil targedau ariannol heriol, mae’r BBC yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd a thoriadau i ambell i weithgaredd corfforaethol,” meddai llefarydd BBC Cymru mewn datganiad.

Mewn datganiad roedd yr Urdd “yn ddiolchgar am y cyfleoedd mae’r BBC yn rhoi i blant a phobol ifanc sy’n rhan o weithgareddau’r Eisteddfod i arddangos eu doniau,” ac yn ychwanegu fod y “penderfyniad i beidio dod ag arddangosfa gorfforaethol i Eisteddfod yr Urdd yn benderfyniad i BBC Cymru”.

Wrth i BBC Cymru ddod dan bwysau i arbed £15 miliwn bob blwyddyn hyd at 2013, mae Cymdeithas yr Iaith eu bod yn trin y gynulleidfa Gymraeg ei hiaith yn eilradd.

“Ar ben gwario llai ar deledu Cymraeg a chael gwared chwaraeon o wefan Gymraeg, mae’r penderfyniad hwn gan y BBC yn dangos yn glir i ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd y Gymdeithas.

Darllenwch weddill yr erthygl yn nghylchgrawn Golwg, 17 Chwefror