Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio ffermwyr i fod yn wyliadwrus wedi i dros 20 o ddefaid gael eu dwyn o fferm yng Ngwent.

Cafodd y defaid eu dwyn o Fferm Gweiniog, Llangwm, sy’n eiddo i Guy Parry a’i wraig Kathleen.

Dywedodd fod 21 o ddefaid wedi eu dwyn o’i fferm rhwng 18 ac 19 Gorffennaf.

“Roedden nhw wedi eu bridio’n arbennig ac mae eu diflaniad yn golygu na fydd modd cynyddu maint y praidd bridio fel yr oedden ni wedi dymuno,” meddai.

“Maen amlwg mai rhywun sy’n nabod yr ardal sydd wrthi, gan bod y defaid wedi eu cymryd o gae sydd ymhell o’r brif ffordd.

“Does dim tystiolaeth i awgrymu sut y cafodd y defaid eu cludo oddi yno.”

Anogodd ffermwyr yr ardal i ymuno â chynllun Farm Watch, sy’n caniatáu i ffermwyr rannu gwybodaeth ynglŷn â cherbydau neu bobol ddrwgdybus.

“Lladrad yr anifeiliaid yma yw’r diweddaraf mewn cynnydd brawychus mewn troseddau cefn gwlad ledled y wlad,” meddai prif weithredwr Undeb Amaethwyr Cymru Gwent, Glyn Davies.

“Mae’r troseddau yma yn rhoi pwysau mawr ar y gymuned amaethyddol ac yn cael effaith ariannol arnyn nhw.”