Lluniau eraill David Rees Davies yn yr arddangosfa
Mae Aelod Seneddol wedi dweud y dylai’r Eisteddfod Genedlaethol ddysgu gwersi ar ôl i lun o ferch leol a’i llofrudd gael eu cynnwys mewn arddangosfa gelf.

Mae’r lluniau yn y neuadd gelf wedi cael eu gorchuddio bellach, ond mae Aelod Seneddol teulu Rebecca Oatley wedi mynegi ei siom eu bod nhw wedi eu dangos yn y lle cyntaf.

“Roedd hon yn llofruddiaeth ddiweddar a dim ond blwyddyn yn ôl gafodd y llofrudd ei ddedfrydu,” meddai Huw Irranca-Davies wrth Golwg360.

“Mae’r teulu’n eisteddfodwyr cyson ac roedden nhw’n bwriadu ymweld â’r Maes heddiw.

“Rwy’n gobeithio fod yr Eisteddfod yn dysgu gwersi o hyn. Nid mater o sensoriaeth yw e ond mater o roi ystyriaeth i gyd-destun amser a lle.

“Mae cyd-destun cymdeithasol gwaith o gelf yn bwysicach na chyfiawnhad artistig neu feirniadol.”

Ymateb yr Eisteddfod

Dywed Huw Irranca-Davies y byddai’n briodol i’r Eisteddfod gysylltu gyda’r teulu ond dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol nad ydyn nhw am ddweud mwy am y mater.

Y bore ma roedd yr Eisteddfod wedi rhyddhau datganiad oedd yn dweud:  “Nid oedd gennym ni fel Eisteddfod wybodaeth am bwy oedd y bobl hyn pan dderbyniwyd y cais na phan y detholwyd y gwaith ar gyfer yr arddangosfa eleni.

“Yn dilyn trafodaeth gyda’r teulu drwy’u Haelod Seneddol lleol a’r artist, gorchuddiwyd y pedair delwedd a rhoddwyd nodyn yn Y Lle Celf i egluro pam.”

Yr artist: delwedd ‘amwys’

Mae David Rees Davies wedi  dweud nad oedd am ypsetio teulu Rebecca Oatley ond bod ei arddangosfa yn “fwriadol amwys.”

Roedd yr arddangosfa ar y thema ‘Pobl rwy’n eu ‘nabod; Pobl roeddwn i’n arfer eu ‘nabod; a Phobl fyddai’n well ‘da fi beidio eu ‘nabod’.

Mewn datganiad dywedodd David Rees Davies fod trais yn “islais hyll, annifyr yn ein cymdeithas.

“Mae wastad wedi bod yno. Des i ar ei draws droeon pan oeddwn i’n llanc ym Mhenybont.

“Mae fy llun yn rhannol yn gwneud sylw am y modd y mae’r wasg yn ymwela ar luniau’r heddlu o’r bobol maen nhw’n arestio, ac felly’n cynhyrfu pobol.”