Cyhoeddi Adroddiad Pearson - o'r chwith: Carwyn Jones, y Dirprwy Weinidog Gwenda Thomas a Geoffrey Pearson
Mae disgwyl y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi cynlluniau i ddiwygio’r drefn wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru gan alw am fwy o gydweithio a safonau cyfartal trwy’r wlad.

Y disgwyl yw y bydd Papur Gwyn yn derbyn llawer o argymhellion a wnaed gan gomisiwn annibynnol y llynedd – dan arweiniad Geoffrey Pearson.

Roedd hwnnw’n galw am greu un system o asesu anghenion pobol trwy Gymru gyfan, ar ôl gweld bod amrywiaethau mawr rhwng safonau mewn gwahanol rannau o’r wlad.

Roedd hefyd eisiau i bobol allu mynd â’u hasesiad gyda nhw o le i le, heb orfod mynd trwy’r broses eto os oedden nhw’n symud.

Mae disgwyl y bydd y Llywodraeth hefyd yn argymell rhagor o gydweithio rhwng adrannau gwasanaethau cymdeithasol y 22 cyngor sir yng Nghymru.

Ymateb y Llywodraeth

Adeg cyhoeddi adroddiad y Comisiwn, roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn dweud bod llawer o’r argymhellion yn cyd-daro ag amcanion y Llywodraeth.

“Mae’n hanfodol ein bod yn rhannu adnoddau ac yn gwneud y defnydd gorau o sgiliau ac arbenigedd yr unigolion talentog sy’n cynnal y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru,” meddai ar y pryd.

“Rhaid symud y ffiniau gwneud sy’n gallu datblygu rhwng gwahanol gyrff.”

Mae tua 150,000 o bobol Cymru yn defnyddio’r gwasanaethau cymdeithasol a’r gost bob blwyddyn tua £1.4 biliwn.