Wylfa yn Ynys Mon
Fe gyhoeddwyd heddiw y bydd atomfa niwclear Wylfa ar Ynys Môn, oedd i fod i gau yn 2010, yn parhau i gynhyrchu trydan am ddwy flynedd arall.

Fe fydd Wylfa, un o safleoedd olaf Magnox sy’n dal i weithredu, yn cau ym mis Medi 2014.

Dywedodd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear y bydd Wylfa yn defnyddio un adweithydd ar ôl i’r adweithydd arall gael ei gau i lawr ym mis Ebrill.

Amcangyfrifir y bydd yr incwm o Wylfa ac Oldbury yn Sir Gaerloyw, oedd wedi cau ym mis Chwefror ar ôl cynhyrchu trydan am bedair blynedd yn ychwanegol, yn werth oddeutu £600 miliwn.

Dywedodd y Gweinidog Ynni Charles Hendry: “Mae Wylfa wedi bod yn cynhyrchu trydan i gartrefi ar draws y wlad am fwy na 40 mlynedd erbyn hyn. Mae’r penderfyniad hwn, yn seiliedig ar asesiadau diogelwch cynhwysfawr, yn beth da i’n diogelwch ynni.

“Fe fydd yn galluogi Wylfa i barhau i gynhyrchu trydan am ddwy flynedd arall, gan ddiogelu swyddi a dod ag incwm ychwanegol a fydd yn helpu tuag at y gost ar gyfer ein rhaglen datgomisiynu niwclear.”

‘Amheuon mawr’

Ymatebodd un o aelodau mwyaf blaenllaw PAWB, mudiad sy’n gwrthwynebu datblygiadau i orsafoedd niwclear, yn chwyrn i’r datblygiadau diweddaraf.

“Mae adweithyddion ar eu perycla’ ar ddechrau, a tua diwedd eu cyfnod mewn pŵer,” meddai Dylan Morgan.

“Problemau henaint oedd wedi gorfodi cau adweithydd rhif 2 rhai diwrnodau’n gynnar ym mis Ebrill ac mae gennym ni amheuon mawr am adweithydd rhif 1 hefyd.

“Cynnig swyddi, dyna’i gyd mae’r gwleidyddion anghyfrifol yma’n ei ddweud. Maen nhw’n barod i aberthu Sir Fôn ar gyfer gwneud elw tymor byr,” ychwanegodd.

Bu Dylan Morgan yn rhan o araith a wnaethpwyd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Llun, ynghyd â mudiadau gwrth-niwclear eraill yn ogystal â Chymdeithas yr Iaith.