Leanne Wood
Fe ddylai plant ysgolion cynradd gael dysgu tair iaith, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Ar Faes yr Eisteddfod ddydd Gwener fe fydd hi’n dadlau bod angen cyflwyno mwy o Gymraeg ac un iaith arall yn gynnar yn eu bywydau.

Fe fydd hi’n dweud nad yw’r ffordd bresennol o ddysgu’r Gymraeg ddim yn ddigon da, gan gyfeirio at adroddiadau diweddar gan y corff arolygu, Estyn a oedd yn awgrymu mai dim ond 20% o ysgolion cyfrwng Saesneg oedd yn cynnig darpariaeth ‘dda’.

“Ydy hi’n amser i ni feddwl o’r newydd sut rydyn ni’n dysgu’r iaith i blant?,” meddai. “Ai drwy ei dysgu mewn dull ffurfiol, diflas, aneffeithiol rhwng 11 ac 16 oed fel sy’n digwydd yn rhy aml ar hyn o bryd?

“Neu a fyddai’n well cyflwyno’r Gymraeg, yn ogystal ag iaith arall, i’n plant pan maen nhw’n dair oed, a’u trwytho nhw yn yr iaith yn y cyfnod pan maen nhw’n dysgu trwy chwarae ac yn dysgu sgiliau sylfaenol yn eu haddysg gynradd.”

Academi iaith

Ddydd Gwener, fe fydd Leanne Wood, sydd ei hun yn dysgu’r iaith, hefyd yn galw am sefydlu ‘Academi iaith’ i ymchwilio i’r ffordd orau i ddysgu ieithoedd a gwella sgiliau athrawon.

Fe fydd yn beirniadu awdurdodau lleol am beidio sicrhau bod rhieni sydd eisiau anfon eu plant i ysgolion Cymraeg yn medru gwneud hynny am eu bod nhw’n llawn.

“Mae enghreifftiau yn agos at y Maes yma lle mae’r rhieni yn teimlo bod rhaid iddyn nhw ddewis addysg Saesneg i’w plant yn lle addysg Gymraeg, achos bod yr ysgol Gymraeg lleol yn llawn.

“Mae’n warthus bod awdurdodau lleol yn dal i fethu ag  ymateb yn ddigon cyflym i’r galw. Mae’n broblem sy’n troi pobl i ffwrdd o addysg Gymraeg.”

Fe fydd yn gofyn i’r ymgynghorydd ieithyddol Cefin Campbell lunio adroddiad i Blaid Cymru er mwyn datblygu strategaeth newydd i wireddu ei gweledigaeth.