Er bod y Gemau Olympaidd yn Llundain yn gyfle i lawer i ymfalchïo yn yr ymdeimlad o Brydeindod, mae arweinwyr twristiaeth yng Nghernyw wedi mynd yn groes i’r syniad.

Mae pennaeth Visit Cornwall, Malcolm Bell, wedi galw ar ei  staff i osgoi defnyddio’r gair “Lloegr” yn eu cynnyrch hyrwyddol.

Yn lle defnyddio “Lloegr” neu “sir”, gofynnodd i’w staff i gyfeirio at Gernyw fel “rhanbarth”, neu, yn syml, “Cernyw”.

Dywedodd Malcolm Bell mai ymgais i hyrwyddo unigrywiaeth Cernyw oedd hyn – ardal sy’n denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr pob blwyddyn – yn hytrach na gwahardd rhai geiriau penodol.

“Wrth gwrs nad yw hyn yn waharddiad,” meddai Malcolm Bell. “Rydym ni am i Gernyw sefyll allan.”

Yr Iaith Gernyweg

Mae gan Gernyw hanes cythryblus â thir mawr Prydain sy’n ymestyn yn ôl canrifoedd.

Yn fwy diweddar, cafodd arwydd Cernyweg ei baentio cyn i’r fflam Olympaidd ddechrau ar ei thaith drwy’r ardal ym mis Mai gan arwain at gynnwrf mawr ymysg ymgyrchwyr dros Gernyweg.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, cefnogodd Plaid Cymru alwadau eu brodyr Celtaidd yng Nghernyw am Gynulliad eu hunain.

Mae gan yr awdurdod lleol bum cynghorydd sy’n cynrychioli plaid Mebyon Kernow.

Ond dywedodd Malcolm Bell mai’r bwriad  yw gwneud y mwyaf o’r hyn sydd yn gwneud Cernyw yn wahanol i weddill Lloegr er mwyn denu ymwelwyr,  yn hytrach na rhoi hwb i genedlaetholwyr sy’n galw am annibyniaeth i Gernyw.

“Fe wnaethom ni waith ymchwil yn 2011 a oedd yn dangos fod 75% o ymwelwyr yng Nghernyw yn ymwybodol fod iaith Cernyweg yn bodoli,” meddai.

“Mae’n rhan o’n hunaniaeth ac felly rydym ni angen gwneud y mwyaf o’r hyn sy’n gwneud Cernyw mor arbennig.”