Meri Huws
Bydd yr ymgynghoriad cynhwysfawr cyntaf yn cael ei wneud ar y defnydd o’r Gymraeg ym maes iechyd, medd Comisiynydd y Gymraeg.

Fe fydd trafodaeth gychwynnol i ddewis union faes yr ymgynghoriad ar Faes yr Eisteddfod heddiw.

Ym mis Mai dywedodd y Gymdeithas Feddygol na ddylai’r Gymraeg fod yn flaenoriaeth i’r Gwasanaeth Iechyd mewn cyfnod o gyni ac y dylai’r pwyslais yn hytrach fod ar agweddau meddygol.

O dan y Mesur Iaith mae gan Meri Huws y pŵer i wneud ymholiad statudol ac mae’n debyg ei bod hi’n ystyried y ddarpariaeth ym maes iechyd i fod yn broblemus.

Y bwriad fydd asesu sut mae modd gosod y defnyddiwr yn ganolog i’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu a chreu gweithle ar gyfer y dyfodol.

Ymhlith y pum maes fydd yn cael eu hystyried y mae meddygon teulu, gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.

‘Statws cyfreithiol’

Yn siarad ar Radio Cymru y bore ma, dywedodd Meri Huws, “Mae hwn yn mynd i fod yn ymholiad statudol o dan fesur y Gymraeg 2011, felly fydd yna statws cyfreithiol iddi, nid ryw ymchwil, nid jyst gofyn cwestiynau er mwyn gofyn cwestiynau.

“Dwi’n ffyddiog y bydd yr ymholiad yn cael sylw oherwydd bod e’n faes sydd yn agos at galonnau pobl, ac fe fyddwn ni yn cynnal yr adroddiad mewn ffordd allen nhw ddim ei anwybyddu.

“Os ydy’r Gymraeg yn rhan annatod o batrwm triniaeth a gofal Cymru, mae’n rhaid sicrhau fod y bobol sy’n darparu’r gofal yn gallu defnyddio’r Gymraeg, boed nhw’n nyrsys, boed nhw’n ddoctoriaid, felly ry’n ni yn sôn am gynllunio tymor canolig, tymor hir.”

Mae ’na 12 mlynedd ers adolygiad cynhwysfawr diwetha’ Llywodraeth Cymru ym maes iechyd.

‘Hawl sylfaenol’

Mae un o brif enwadau Cristnogol Cymru wedi croesawu bwriad Comisiynydd y Gymraeg i gynnal yr ymholiad.

Bu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ymgyrchu ers blynyddoedd i fynnu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg i bobol sy’n sâl, yn hen, neu’n fregus.

“Credwn fod hawl sylfaenol gan bobl i gael gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysbyty, yn y cartref neu mewn cartref preswyl yng Nghymru,” meddai Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.

“Mae pobol yn teimlo’n fwy cysurus o lawer o gael gofal yn eu hiaith eu hunain. Rydym yn falch dros ben bod Meri Huws yn bwriadu gwneud hyn yn flaenoriaeth.”