Mae dyn wedi marw ar ôl neidio oddi ar bont yn Llansawel ger Castell-nedd y bore yma.

Cafodd yr heddlu wybod toc wedi 8.30am fod dyn wedi neidio i mewn i afon Nedd oddi ar yr A48.

Bu farw’n ddiweddarach yn Ysbyty Treforys.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion wrth iddyn nhw geisio adnabod y dyn.

Maen nhw’n dweud ei fod e’n ddyn gwyn yn ei 30au, rhwng 5’8” a 5’10”, ei fod o faint canolig a’i fod yn foel  neu wedi siafio’i ben.

Roedd e’n gwisgo crys-t a throwsus tracwisg du.

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Simon Davies o Heddlu De Cymru: “Cafodd y dyn ei weld yn neidio o’r bont i mewn i’r afon. Dydyn ni ddim wedi gallu ei adnabod e, ac rydym yn apelio ar unrhyw un a allai ein helpu ni i gysylltu â ni yng ngorsaf heddlu Castell-nedd.”

Ychwanegodd nad yw’r farwolaeth yn un amheus, a bod y crwner wedi cael gwybod.