Thomas Glyn Watkin (o wefan y Sefydliad)
Mae yna ddadl gref bellach dros gael cyfundrefn lysoedd ar wahân i Gymru, yn ôl Cwnsel Deddfwraethol cynta’ Llywodraeth Cymru.

Mewn darlith, fe ddywedodd yr Athro Thomas Glyn Watkin bod gallu newydd y Cynulliad i ddeddfu wedi cryfhau’r dadleuon.

“Gan fod angen i’r cyfreithiau hynny gael eu gweinyddu, ac nad oes unrhyw reswm call am eu gweithredu y tu allan i Gymru, mae’r alwad am gyfundrefn farnwrol Gymreig yn ddadl gref ar sail egwyddor gyfansoddiadol,” meddai yn narlith flynyddol y Sefydliad Materion Cymreig.