James McLaren
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai James McLaren, un o arbenigwyr cerddoriaeth y BBC yng Nghymru, fu farw mewn damwain car ar yr M48 ger Magwyr yn Sir Fynwy bore ddoe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar y ffordd rhwng Magwyr a Chas-gwent tua 10.20yb.

Mae nifer o bobol amlwg yn y sin gerddorol yng Nghymru, gan gynnwys Huw Stephens, Adam Walton a Martin Carr, wedi bod yn trydar yn dilyn marwolaeth James McLaren, 34, o Gaerdydd.

“Dim syniad sut i fynegi fy nhristwch yn dilyn marwolaeth @mclaren_jk. Fy meddyliau i gyd efo’i deulu a’i ffrindia. Dyn gwych,” meddai Adam Walton, cyflwynydd ar BBC Radio Wales.

Bu’r newyddiadurwr yn ysgrifennu blog ar gyfer BBC Wales, ac yn ysgrifennu ar gerddoriaeth yng Nghymru am tua phymtheg mlynedd.

Yn ôl adroddiadau cynnar, roedd James McLaren yn sefyll tu allan i’w gar pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio  i’r digwyddiad.